CÂN 50
Fy Ngweddi Wrth Ymgysegru
Fersiwn Printiedig
1. Rhof yn llwyr fy nghalon i,
Caru rwyf dy gyfraith di.
I’th orchmynion ufuddhaf,
Ymhyfrydu ynot gwnaf.
2. Rhof fy nerth yn llwyr i ti,
F’enaid, a’m holl feddwl i.
Rhof i ti fy llais a’m cân,
Canu wnaf i’th enw glân.
3. Gwneud d’ewyllys di a wnaf,
Dan d’arweiniad di parhaf.
Rhof bob dim sydd gennyf fi,
Ymgysegru rwyf i ti.
(Gweler hefyd Salm 40:8; Ioan 8:29; 2 Cor. 10:5.)