LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 7/12 tt. 2-3
  • Helpu Pobl i Wrando ar Dduw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Helpu Pobl i Wrando ar Dduw
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwrando ar Dduw—Sut i’w Ddefnyddio?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Sut i Ddefnyddio Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Pregethwch i “Bawb”
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Ydych Chi’n Defnyddio’r Llyfrynnau Hyn?
    Ein Gweinidogaeth—2012
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2012
km 7/12 tt. 2-3

Helpu Pobl i Wrando ar Dduw

1. Pa lyfrynnau cafodd eu cyhoeddi yn ystod Cynhadledd Rhanbarth “Let God’s Kingdom Come!” a pham maen nhw mor ddefnyddiol?

1 Yng Nghynhadledd Rhanbarth “Let God’s Kingdom Come!” cafodd dau lyfryn newydd eu cyhoeddi, Gwrando ar Dduw a Byw am Byth a fersiwn syml yn Saesneg Listen to God. Oherwydd cyn lleied o destun sydd yn y llyfrynnau hyn mae’n bosibl eu cyfieithu’n gyflym ac yn hawdd. Pan gafodd Gwrando ar Dduw a Byw am Byth ei gyhoeddi yn Saesneg, cafwyd caniatâd i’w gyfieithu i 431 o ieithoedd eraill.

2. Pwy fydd yn elwa ar y llyfrynnau hyn?

2 Pwy fydd yn elwa ar y llyfrynnau hyn? Ystyriwch y sefyllfaoedd canlynol sy’n codi yn aml o amgylch y byd:

• Mae cyhoeddwr sy’n siarad â deiliad, naill ai ar yr alwad gyntaf neu ar yr ail alwad, yn sylwi nad yw’r person yn darllen yn dda neu nad yw’n darllen o gwbl.

• Nid oes llawer o gyhoeddiadau ar gael neu ddim cyhoeddiadau o gwbl yn yr iaith y mae cyhoeddwr yn pregethu ynddi. Neu, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn y diriogaeth yn gallu darllen yr iaith y mae’n well ganddyn nhw ei siarad.

• Mae cyhoeddwr yn defnyddio iaith arwyddion i bregethu i bobl fyddar yn y diriogaeth.

• Mae rhiant yn dymuno dysgu’r gwirionedd i’w blentyn ifanc nad yw wedi dysgu darllen eto.

3. Sut mae Listen to God wedi ei gynllunio?

3 Wedi eu Cynllunio’n Ofalus: Ychydig o destun sydd yn y llyfryn Listen to God. Ar waelod pob tudalen mae cyfeiriad at Ysgrythur gyda brawddeg syml i bwysleisio’r prif bwyntiau. Pam? Dychmygwch fod rhywun yn cynnig llyfryn ichi mewn iaith nad ydych yn ei deall, efallai mewn gwyddor sy’n ddieithr ichi. Hyd yn oed petai’r llyfryn yn cynnwys lluniau hyfryd, a fyddai o ddiddordeb ichi? Na fyddai, mae’n debyg. Yn yr un modd, mae pobl nad yw’n gallu darllen yn digalonni wrth weld llenyddiaeth llawn geiriau. Felly, mae’r lluniau ar bob tudalen, wedi eu dylunio’n ofalus gyda saethau yn mynd o un llun i’r un nesaf er mwyn arwain y drafodaeth.

4. Sut mae Gwrando ar Dduw a Byw am Byth wedi ei gynllunio?

4 Mae Gwrando ar Dduw a Byw am Byth yn cynnwys yr un lluniau â Listen to God. Y mae wedi ei gynllunio ar gyfer astudio gyda phobl sy’n cael hi’n anodd darllen neu gyda rhai sy’n dysgu darllen. Gall cyhoeddwr ddefnyddio’r llyfryn hwn i’w helpu i arwain astudiaeth gyda rhywun yn Listen to God. Mae pob gwers yn ddau dudalen ac ar ben pob un y mae cwestiwn sy’n cael ei ateb yn y wers honno. Mae’r lluniau yn cynnwys sylwadau ac adnodau. Ar waelod y rhan fwyaf o’r tudalennau y mae blychau wedi eu tywyllu sy’n cynnwys pwyntiau a chyfeiriadau at adnodau y gellir eu trafod, yn dibynnu ar allu’r myfyriwr.

5. Pryd a sut y gallwn ni gynnig y llyfrynnau hyn?

5 Sut i’w Defnyddio: Gallwch gynnig y naill lyfryn neu’r llall ar yr alwad gyntaf pan fo’r angen, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gynnig y mis. (Gweler y blwch “Sut i’w Cynnig.”) Gallwch hefyd ei gynnig ar ail alwad gan ddweud eich bod chi wedi dod â rhywbeth i’r deiliad ac yna rhoi’r llyfryn iddo.

6. Sut byddwn ni’n cynnal astudiaeth yn y llyfrynnau hyn?

6 Nid oes cwestiynau yn y llyfryn Listen to God, felly bydd y ffordd rydych chi’n cynnal yr astudiaeth yn wahanol i’r arfer, sef, holi ac ateb cwestiynau fel y gwneir yn y llyfr Beibl Ddysgu. Ym mhob diwylliant mae pobl yn hoff o glywed stori. Felly, defnyddiwch y lluniau i adrodd storïau ysbrydoledig y Beibl. Eglurwch y lluniau. Byddwch yn frwdfrydig. Gofynnwch i’r myfyriwr am ei farn. Darllenwch yr adnodau ar waelod y tudalen, a rhesymwch gydag ef am yr hyn y maen nhw’n ei ddweud. Gofynnwch gwestiynau er mwyn cynnwys y myfyriwr yn y drafodaeth ac i wneud yn siŵr ei fod yn deall. Os yw’r myfyriwr yn defnyddio Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, darllenwch y testun a’r adnodau sy’n perthyn i bob llun.

7. Sut gallwn ni helpu ein myfyriwr i dyfu’n ysbrydol?

7 Helpu’r Myfyriwr i Dyfu’n Ysbrydol: Gobeithio bydd eich trafodaeth yn annog y myfyriwr i ddysgu darllen, fel ei fod yn gallu dysgu am Jehofah ar ei ben ei hun. (Math. 5:3; Ioan 17:3) Felly, os ydych yn astudio’r llyfryn Listen to God, efallai byddech yn gallu cynnig dysgu’r myfyriwr i ddarllen ac ymhen amser newid yr astudiaeth i’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth. Ni fydd y myfyriwr yn barod i gael ei fedyddio ar ôl astudio’r llyfryn. Ar ôl gorffen y llyfryn dylech ddechrau astudio’r llyfr Beibl Ddysgu neu gyhoeddiad arall sy’n addas a fydd yn rhoi dealltwriaeth well i’r unigolyn.

8. Pam rydych chi’n ddiolchgar am y llyfrynnau newydd ar gyfer y weinidogaeth?

8 Mae’n rhaid i bobl wrando ar Benarglwydd y bydysawd os ydyn nhw am fyw am byth. (Esei. 55:3) Ewyllys Jehofah yw i ‘bob un’ ddysgu sut i wrando arno ef, gan gynnwys y rhai nad ydyn nhw’n gallu darllen. (1 Tim. 2:3, 4) Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr hyn sydd gennym i ddysgu pobl sut i wrando ar Dduw!

[Blwch ar dudalen 3]

Sut i’w Cynnig

Dangoswch dudalennau 2-3 i’r deiliad, a dweud: “A fyddech chi’n hoffi byw mewn byd sy’n edrych fel hyn? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Ysgrythurau’n addo y bydd Duw yn gwneud y byd yn Baradwys heddychlon, heb afiechyd. Sylwch ar beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn byw ynddi. [Darllenwch Eseia 55:3, sydd i’w weld ar frig tudalen 3.] Y mae’n dweud wrthon ni am fynd at Dduw ac i wrando arno. Ond sut medrwn ni wrando ar Dduw?” Trowch at dudalennau 4-5, a thrafodwch yr ateb. Os nad oes ganddo amser, rhowch y llyfryn iddo a gwnewch drefniadau i alw’n ôl i drafod yr ateb.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu