LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • hf rhan 2 tt. 6-8
  • Byddwch yn Ffyddlon i’ch Gilydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Byddwch yn Ffyddlon i’ch Gilydd
  • Sut i Gael Teulu Hapus
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • 1 RHOWCH FLAENORIAETH I’CH PRIODAS
  • 2 DIOGELWCH EICH CALON
  • Edrychwch at Dduw am Briodas Hapus
    Sut i Gael Teulu Hapus
  • Sut i Gadw Heddwch â’ch Perthnasau
    Sut i Gael Teulu Hapus
  • Sut i Ddatrys Problemau
    Sut i Gael Teulu Hapus
  • Sut i Ddod o Hyd i Gymar
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Sut i Gael Teulu Hapus
hf rhan 2 tt. 6-8
Gŵr yn helpu’i wraig i gadw’n sych wrth iddi mynd i mewn i’r car

RHAN 2

Byddwch yn Ffyddlon i’ch Gilydd

“Yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.”—Marc 10:9

Mae Jehofa yn disgwyl inni ‘garu teyrngarwch.’ (Micha 6:8) Mae hynny’n wir yn enwedig mewn priodas, oherwydd heb deyrngarwch, neu ffyddlondeb, ni allwch chi ymddiried yn eich gilydd. Hefyd, mae’n hanfodol ichi ymddiried yn eich gilydd er mwyn i gariad flodeuo.

Heddiw mae ffyddlondeb mewn priodas o dan fygythiad. Er mwyn amddiffyn eich priodas, mae’n rhaid ichi fod yn benderfynol o wneud dau beth.

1 RHOWCH FLAENORIAETH I’CH PRIODAS

MAE’R BEIBL YN DWEUD: Y dylen ni “fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth.” (Effesiaid 5:15, 16) Mae’n ddoeth i ystyried eich priodas fel un o’r pethau pwysicaf yn eich bywyd. Mae’n haeddu blaenoriaeth.

Mae Jehofa eisiau ichi roi sylw manwl i’ch cymar a ‘mwynhau bywyd’ gyda’ch gilydd. (Pregethwr 9:9) Mae Jehofa yn ei gwneud hi’n eglur na ddylech chi byth ddiystyru eich cymar. Yn hytrach, dylai’r ddau ohonoch edrych am ffyrdd o wneud eich gilydd yn hapus. (1 Corinthiaid 10:24) Gwnewch i’ch cymar deimlo ei fod yn bwysig, ac yn werthfawr.

Gŵr yn rhoi diod i’w wraig; gŵr yn cyrraedd adref ac yn gweld ei wraig yn paratoi pryd o fwyd

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Sicrhewch eich bod chi’n treulio amser gyda’ch gilydd yn rheolaidd, gan roi eich holl sylw i’ch cymar

  • Meddyliwch am “ni” yn lle “fi”

Gŵr a gwraig yn mwynhau picnic gyda’i gilydd

2 DIOGELWCH EICH CALON

MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Mae pob un sy’n edrych mewn blys ar wraig, eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon.’ (Mathew 5:28) Petai rhywun yn parhau i feddwl am bethau anfoesol, mewn ffordd mae’n bod yn anffyddlon i’w gymar.

Mae Jehofa yn dweud y dylech chi edrych ar ôl eich meddwl a’ch calon. (Diarhebion 4:23; Jeremeia 17:9) Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid ichi warchod eich llygaid. (Mathew 5:29, 30) Dilynwch esiampl Job, a wnaeth gytundeb gyda’i lygaid i beidio byth ag edrych ar ddynes arall â chwant. (Job 31:1) Byddwch yn benderfynol i beidio byth ag edrych ar bornograffi, ac i osgoi meithrin teimladau rhamantus tuag at unrhyw un heblaw am eich cymar.

Gŵr gyda llun o’i wraig ar ei ddesg

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gwnewch hi’n amlwg i eraill eich bod chi’n hollol ffyddlon i’ch cymar

  • Ystyriwch deimladau eich cymar, a dewch ag unrhyw berthynas sy’n gwneud iddo deimlo’n anesmwyth i ben ar unwaith

GWNEWCH EICH RHAN

Byddwch yn onest â’ch hunan, gan gydnabod eich gwendidau. (Salm 15:2) Peidiwch â theimlo cywilydd wrth ofyn am help. (Diarhebion 1:5) Os ydy’ch meddyliau yn troi at bethau anfoesol, daliwch ati i frwydro yn eu herbyn. Peidiwch â digalonni. (Diarhebion 24:16) Fe fydd Jehofa yn bendithio eich ymdrech i aros yn ffyddlon i’ch cymar.

YSTYRIWCH HYN . . .

  • Sut galla’ i wneud mwy o amser i’m cymar?

  • Ydy fy nghymar yn ffrind gorau imi?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu