LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb17 Chwefror t. 4
  • Defnyddio Llenyddiaeth Feiblaidd yn Ddoeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Defnyddio Llenyddiaeth Feiblaidd yn Ddoeth
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Erthyglau Tebyg
  • Blwch Cwestiynau
    Ein Gweinidogaeth—2011
  • “Mi Gymeraf Eich Llyfr Chi Os Cymerwch Fy Llyfr I”
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Beth Yw ei Gyflwr?
    Ein Gweinidogaeth—2011
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
mwb17 Chwefror t. 4
Dynes yn gwrando ar Dystion Jehofa yn cyflwyno’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Defnyddio Llenyddiaeth Feiblaidd yn Ddoeth

Dysgodd Iesu: “Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.” (Mth 10:8) Cadwn at y cyfarwyddyd clir hwnnw drwy beidio â chodi tâl am gopi o’r Beibl neu lenyddiaeth sydd wedi eu seilio ar y Beibl. (2Co 2:17) Eto i gyd, mae gan y cyhoeddiadau hyn wirioneddau gwerthfawr o Air Duw. Gydag ymdrech a chost fawr mae’r llenyddiaeth yn cael ei hargraffu a’i hallforio i gynulleidfaoedd o amgylch y byd. Felly, dylen ni gymryd ond yr hyn sydd ei angen.

Dylid pwyso a mesur cyn rhoi llenyddiaeth i eraill, hyd yn oed mewn lleoliad tystiolaethu’n gyhoeddus. (Mth 7:6) Yn lle rhoi llyfrau yn nwylo pawb sy’n mynd heibio, gwna ymdrech i sgwrsio â nhw er mwyn mesur eu diddordeb. A elli di ateb “ydy” i o leiaf un o’r cwestiynau yn y blwch canlynol? Os nad yw’n bosibl i ti benderfynu lefel ei ddiddordeb, bydd yn well rhoi taflen iddo. Wrth gwrs, os bydd yn gofyn am gylchgrawn neu gyhoeddiad arall, byddwn ni’n hapus i roi copi iddo.—Dia 3:27, 28.

A YW’R PERSON YN . . .

  • gwrando’n astud wrth inni siarad?

  • ymuno yn y sgwrs?

  • cytuno darllen y llenyddiaeth?

  • cynnig cyfraniad?

  • ymateb yn ffafriol i’r hyn mae’n ei glywed o Air Duw?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu