CÂN 140
“Nawr fe Gawn Fyw am Byth!”
Fersiwn Printiedig
1. Tyrd am dro i newydd fro,
Tyrd, dychmyga baradwys.
Weli di’n glir ddaear ir?
A phawb yn gwenu’n braf?
(CYTGAN)
Cana o’th galon lon,
Ti gaiff y wobr hon.
Dweud byddi di, “Dyma ni!
Nawr fe gawn fyw am byth!”
2. Hwyl fwynhawn, iechyd da gawn,
Pawb yn ffrind i Jehofa.
Pryder, ni fydd. Hyfryd ddydd!
Hwn ydyw byw go iawn!
(CYTGAN)
Cana o’th galon lon,
Ti gaiff y wobr hon.
Dweud byddi di, “Dyma ni!
Nawr fe gawn fyw am byth!”
3. Heddwch gawn, harddwch fwynhawn,
Canwn glod y Creawdwr.
Tra byddwn byw, molwn Dduw,
Canmol ei gariad wnawn.
(CYTGAN)
Cana o’th galon lon,
Ti gaiff y wobr hon.
Dweud byddi di, “Dyma ni!
Nawr fe gawn fyw am byth!”
(Gweler hefyd Job 33:25; Salm 72:7; Dat. 21:4.)