LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 104
  • Sut Galla i Ddysgu i Ganolbwyntio?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Galla i Ddysgu i Ganolbwyntio?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam fedra i ddim canolbwyntio?
  • Sut i ganolbwyntio’n well
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Gallu i Ddysgu?
    Deffrwch!—2021
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?
    Deffrwch!—2021
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Priodas?
    Deffrwch!—2021
  • Sut Galla’ i Lwyddo Wrth Ddysgu o Bell?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Gweld Mwy
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 104
Merch yn tewi cymeriadau dychmygol sy’n tynnu ei sylw oddi ar astudio. Mae’r cymeriadau yn cynrychioli cerddoriaeth, fideos, negeseuon testun, a lluniau.

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla i Ddysgu i Ganolbwyntio?

  • Pam fedra i ddim canolbwyntio?

  • Sut i ganolbwyntio’n well

  • Barn dy gyfoedion

Pam fedra i ddim canolbwyntio?

“Dw i ddim yn darllen llawer o lyfrau dim mwy. Dw i’m hyd yn oed yn licio darllen paragraffau hir dyddiau yma.”—Elaine.

“Wna i gyflymu fideo os dw i’n teimlo bod o ddim yn mynd yn ddigon cyflym.”—Miranda.

“Hyd yn oed os ydyw i’n gwneud rhywbeth pwysig, os dw i’n clywed fy ffôn, oll dw i’n gallu meddwl am ydy ‘Pwy sy’n tecstio fi?’”—Jane.

Ydy technoleg yn gallu ei gwneud hi’n anodd canolbwyntio? Mae rhai yn dweud ei bod hi. Ysgrifennodd yr awdur a’r ymgynghorydd rheoli Nicholas Carr: “Y mwyaf rydyn ni’n defnyddio’r We, y mwyaf rydyn ni’n dysgu ein hymennydd i beidio â chanolbwyntio—i brosesu gwybodaeth yn sydyn iawn, ond heb ganolbwyntio am gyfnodau hir.”a

Ystyria dair sefyllfa lle gallai technoleg amharu ar dy allu i ganolbwyntio.

  • Wrth siarad. “Hyd yn oed wrth sgwrsio wyneb yn wyneb,” meddai dynes ifanc o’r enw Maria, “mae pobl yn tecstio, chwarae gêmau, neu tsiecio cyfryngau cymdeithasol ar eu ffôn, yn hytrach na rhoi eu sylw llawn i’r person maen nhw’n siarad gyda.”

  • Yn y dosbarth. Yn ôl y llyfr Digital Kids, “Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn yr ysgol yn dweud eu bod nhw’n defnyddio dyfeisiau electronig yn ystod eu gwersi i decstio, neu i edrych ar rywbeth sydd â dim byd i’w wneud â’u gwaith.”

  • Wrth astudio. “Y peth anoddaf i mi ydy peidio ag edrych ar fy ffôn bob tro mae’n gwneud sŵn,” meddai Chris, sy’n 22. Gall awr o waith cartref droi’n dair awr neu fwy os ydy dy ddyfeisiau’n tynnu dy sylw.

Y gwir yw: Byddi di’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio os wyt ti’n gadael i dechnoleg dy reoli a chymryd dy sylw.

Bachgen yn cael ei daflu oddi ar geffyl.

Mae meddwl sy’n crwydro fel ceffyl gwyllt—mae’n dy reoli di

Sut i ganolbwyntio’n well

  • Wrth sgwrsio. Mae’r Beibl yn dweud: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.” (Philipiaid 2:4) Dangosa dy fod ti’n gwneud hynny drwy wrando’n astud. Cadwa gyswllt llygad, a phaid â gadael i dy ddyfeisiau dynnu dy sylw.

    “Mewn sgwrs, gwrthoda’r temtasiwn i edrych ar dy ffôn. Dangosa barch at y person ti’n siarad efo nhw, drwy roi dy sylw llawn iddyn nhw.”—Thomas.

    AWGRYM: Mewn sgwrs, beth am gadw dy ffôn allan o’r golwg. Mae ymchwilwyr yn dweud bod hyn yn oed cael ffonau’n agos yn gallu effeithio ar dy allu i ganolbwyntio, ac mae’n awgrymu y gall rhywbeth dorri ar eich traws ar unrhyw adeg.

  • Yn y dosbarth. Mae’r Beibl yn dweud: “Gwrandwch yn ofalus.” (Luc 8:18) Gyda’r egwyddor honno mewn cof, os ydy’r ysgol yn caniatáu mynediad i’r we yn y dosbarth, paid â tsiecio negeseuon, chwarae gêmau, na sgwrsio ar lein pan ddylet ti fod yn canolbwyntio ar ddysgu.

    “Tria dalu mwy o sylw yn dy wersi. Gwna nodiadau. Os gelli di, eistedda tuag at y ffrynt i ganolbwyntio’n well.”—Karen.

    AWGRYM: Ysgrifenna dy nodiadau yn hytrach na’u teipio. Mae ymchwil yn dangos y byddi di’n gallu canolbwyntio’n fwy ac yn cofio beth rwyt ti wedi ei ddysgu yn well.

    Merch yn astudio wrth ddesg yn ei hystafell. Mae hi wedi rhoi ei bag, ei ffôn, a’i chylchgronau allan o’i chyrraedd.
  • Wrth astudio. Mae’r Beibl yn dweud: “Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn.” (Diarhebion 4:5) Mae hynny’n golygu meddwl yn ddwfn, yn hytrach na brysio drwy wybodaeth dim ond i basio prawf.

    “Pan dw i’n astudio, dw i’n rhoi modd awyren ymlaen ar fy nhabled ac yn canolbwyntio ar beth dw i’n wneud. Dw i’m yn edrych ar unrhyw negeseuon sy’n codi. Os dw i’n meddwl am rywbeth dw i angen cofio, dw i’n sgwennu o lawr.”—Chris.

    AWGRYM: Gwna’n siŵr dy fod ti’n astudio yn rhywle sy’n caniatáu iti ganolbwyntio—rhywle sy’n lân ac yn dwt.

a O’r llyfr The Shallows—What the Internet Is Doing to Our Brains.

Barn dy gyfoedion

Katie.

“Wrth astudio, mae’n ddigon hawdd bod fel sgïwr dŵr sy’n teithio’n bell ond sydd ond yn sgimio ar wyneb y dŵr. Er mwyn dysgu’n dda, mae’n rhaid iti fod fel sgwba-blymiwr, sy’n deifio’n ddwfn i ffeindio rhywbeth gwerthfawr.”—Katie.

Rogelio.

“Er mwyn meddwl yn glir, mae’n rhaid cael corff iach. Mae bwyta’n iach yn helpu fi i ganolbwyntio’n well. Mae hefyd yn helpu pan dw i’n cael digon o gwsg, achos dw i’n fwy effro y diwrnod wedyn ac yn gallu canolbwyntio.”—Rogelio.

I adolygu: Sut galla i ddysgu i ganolbwyntio?

  • Wrth sgwrsio. Dangosa barch at y rhai ti’n sgwrsio gyda nhw drwy wrando’n astud, heb adael i unrhyw beth dynnu dy sylw.

  • Yn y dosbarth. Paid â darllen negeseuon, chwarae gêmau, na sgwrsio ar lein, pan ddylet ti fod yn canolbwyntio ar ddysgu.

  • Wrth astudio. Gwna’n siŵr dy fod ti’n astudio rhywle lle gelli di ganolbwyntio—rhywle sy’n lân ac yn dwt.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu