LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 108
  • Pa Mor Bwysig Ydy Poblogrwydd Ar Lein?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pa Mor Bwysig Ydy Poblogrwydd Ar Lein?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth ydy’r peryglon?
  • “Argraff o boblogrwydd”
  • Ydy dilynwyr a’r nifer sy’n ‘hoffi’ yn bwysig?
  • Ein Gwefan Swyddogol—Defnyddiwch Hi ar Gyfer Astudio Personol a Theuluol
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Pwy Yw Dy Ffrindiau Ar-Lein?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Beth Ddylwn i ei Wybod am Rannu Lluniau ar Lein?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol—Rhan 1: A Ddylai Fy Mhlentyn Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol?
    Help ar Gyfer y Teulu
Gweld Mwy
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 108
Merch yn ei harddegau yn gwenu wrth edrych ar ei ffôn. Mae 85 o bobl wedi ‘hoffi’ rhywbeth ar ei chyfryngau cymdeithasol.

CWESTIYNAU POBL IFANC

Pa Mor Bwysig Ydy Poblogrwydd Ar Lein?

Mae Elaine, sydd yn ei harddegau, yn dweud: “Pan welais i fod gan fy ffrindiau ysgol gannoedd o ddilynwyr ar lein, meddyliais, ‘Wow—maen nhw’n boblogaidd!’ O’n i braidd yn genfigennus i ddweud y gwir.”

Wyt ti erioed wedi teimlo fel ’na? Os felly, gall yr erthygl hon dy helpu i osgoi’r boen o geisio bod yn boblogaidd ar lein.

  • Beth ydy’r peryglon?

  • “Argraff o boblogrwydd”

  • Ydy dilynwyr a’r nifer sy’n ‘hoffi’ yn bwysig?

  • Gwylia rhag “brolio gostyngedig”

Beth ydy’r peryglon?

Yn Diarhebion 22:1, mae’r Beibl yn dweud bod “enw da yn well na chyfoeth mawr.” Felly mae’n iawn i eisiau enw da—hyd yn oed i eraill dy hoffi di.

Ond weithiau mae’r awydd i gael dy dderbyn yn troi’n awch am boblogrwydd. Ydy hynny’n beryglus? Mae Onya sy’n 16 yn meddwl ei bod hi:

“Dwi wedi gweld pobl yn gwneud pethau twp—fel neidio oddi ar ail lawr yr ysgol—jest i fod yn boblogaidd.”

Er mwyn cael sylw eu cyfoedion, mae rhai pobl hyd yn oed yn ffilmio eu styntiau gwirion a’u postio nhw ar lein. Er enghraifft, mae nifer o arddegwyr wedi lanlwytho fideos o’u hunain yn bwyta podiau sebon golchi dillad—capsiwlau bach sy’n cynnwys sylweddau tocsig—rhywbeth na ddylai neb byth ei wneud!

Dywed y Beibl: “Peidiwch bod . . . yn llawn ohonoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:3.

Ystyria hyn:

  • Ydy bod yn boblogaidd ar lein yn bwysig i ti?

  • A fyddi di’n risgio dy iechyd neu dy fywyd i gael sylw a chymeradwyaeth dy gyfoedion?

    Barn dy gyfoedion

    Leianna.

    “Mae poblogrwydd yn beryglus pan mae pobl yn barod i wneud unrhyw beth i’w gyrraedd. Maen nhw’n meddwl os ydyn nhw’n siarad, gwisgo, neu’n ymddwyn mewn ffordd benodol​—hyd yn oed ar lein—byddan nhw’n boblogaidd. Dydy hi ddim yn werth cyfaddawdu dy ddaliadau ac egwyddorion jest er mwyn bod yn boblogaidd.”—Leianna.

“Argraff o boblogrwydd”

Dydy pobl ddim wastad yn gwneud pethau peryglus er mwyn ceisio bod yn boblogaidd. Mae Erica sy’n 22 yn nodi sut mae eraill yn mynd ati:

“Mae pobl yn postio llawer o uchafbwyntiau eu bywydau, gan ymddangos fel bod ganddyn nhw restr ddiddiwedd o ffrindiau agos sy’n treulio amser gyda nhw. Mae’n creu argraff o boblogrwydd.”

Mae Cara sy’n 15 yn dweud bod rhai pobl yn twyllo er mwyn creu’r argraff honno:

“Dw i wedi gweld pobl yn cymryd ffotograffau i ymddangos fel bod nhw mewn parti, ond mewn gwirionedd roedden nhw adref.”

Mae Matthew sy’n 22 yn cyfaddef ei fod wedi gwneud rhywbeth tebyg:

“Wnes i bostio llun a tagio Mynydd Everest fel y lleoliad, er fy mod i erioed wedi mynd i Asia!”

Dywed y Beibl: “Byw yn onest ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18, Beibl Cysegr-lân.

Ystyria hyn:

  • Os wyt ti’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, wyt ti’n postio pethau anonest er mwyn dod yn fwy poblogaidd?

  • Ydy dy luniau a dy sylwadau yn wir yn dangos pwy wyt ti a beth rwyt ti’n ei gredu?

    Barn dy gyfoedion

    Hannah.

    “Bydd rhai pobl yn gwneud beth bynnag i gael mwy yn ‘hoffi.’ Ond sut rwyt ti eisiau i bobl dy adnabod di—am siarad a gwisgo’n anaddas neu am wneud sioe fawr o dy eiddo? Neu oes well gen ti gael dy adnabod am dy rinweddau da neu am ddangos diddordeb mewn eraill? Mae’n teimlo’n braf pan mae rhywun yn dy hoffi, ond gwna’n siŵr bod hynny am resymau gelli di fod yn prowd ohonyn nhw.”—Hannah.

Ydy dilynwyr a’r nifer sy’n ‘hoffi’ yn bwysig?

Mae llawer o bobl yn credu bod rhaid cael nifer enfawr o bobl yn dy ‘ddilyn’ ac yn ‘hoffi’ beth rwyt ti’n ei bostio er mwyn bod yn boblogaidd ar lein. Mae Matthew a ddyfynnwyd yn gynharach yn cyfaddef ei fod wedi teimlo fel hynny ar un adeg:

“O’n i’n gofyn i bobl, ‘Faint o ddilynwyr sydd gen ti?’ neu ‘Beth ydy’r nifer mwyaf o bobl yn ‘hoffi’ rhywbeth rwyt ti wedi postio?’ I gael mwy o ddilynwyr, o’n i’n dilyn pobl ddiarth, gan obeithio bydden nhw’n dilyn fi hefyd. Datblygais awch am boblogrwydd, ac roedd cyfryngau cymdeithasol yn cryfhau’r teimlad yna.”

Collage: 1. Merch yn ei harddegau yn edrych ar y nifer sydd wedi hoffi rhywbeth ar ei chyfryngau cymdeithasol ac yn gwenu. 2. Yr un ferch yn bwyta siocled a losin. 3. Mae’r ferch gyda’i llaw ar ei bol ac yn edrych yn drist.

Mae poblogrwydd ar lein yn debyg i fwyd brys—mae’n teimlo’n dda am gyfnod byr, ond ddim yn dy fodloni

Mae Maria sy’n 25 wedi sylwi bod rhai pobl yn mesur eu hunan-werth ar sail faint o ddilynwyr a hoffiadau maen nhw’n eu derbyn:

“Mae merch yn meddwl ei bod hi’n hyll os nad ydy digon o bobl yn ‘hoffi’ ei hunlun. Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn wir, ond byddai llawer o bobl yn ymateb fel ’na yn yr un sefyllfa. Mewn ffordd, maen nhw’n seiberfwlio eu hunain.”

Dywed y Beibl: “Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.”—Galatiaid 5:26.

Ystyria hyn:

  • Os wyt ti’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ydyn nhw’n achosi iti gymharu dy hun ag eraill?

  • Ydy nifer dy ddilynwyr yn bwysicach iti na gwneud ffrindiau go iawn sy’n gofalu amdanat ti?

    Barn dy gyfoedion

    Joshua.

    “I fod yn boblogaidd ar lein mae’n rhaid iti fod rhywun mae pobl eraill yn edmygu, ac mae hynny fel arfer yn golygu bod fel nhw. Gall hynny wneud iti ganolbwyntio gormod ar sut mae eraill yn dy weld di ac ar sut gelli di eu plesio nhw. Mae’n hollol normal i eisiau i bobl dy licio di, ond gall canolbwyntio ar fod yn boblogaidd droi’r awydd yna yn obsesiwn.”—Joshua.

Gwylia rhag “brolio gostyngedig”

Wyt ti erioed wedi sylwi ar sut mae rhai pobl yn brolio am beth maen nhw wedi ei gyflawni ond yn ei guddio drwy gwyno?

  • “Ers i mi gael fy nghar newydd sbon, mae pobl yn gofyn am lifft o hyd!”

  • “Alla i ddim goddef y ffordd mae pawb yn canmol fi am golli pwysau!”

Mae’r siaradwr yn cwyno er mwyn ymddangos yn ostyngedig, ond mewn gwirionedd mae’n brolio.

Rhybudd: Mae’r fath hon o frolio fel arfer yn methu, oherwydd bod pobl yn gallu gweld beth rwyt ti’n ceisio ei wneud. Yn aml, mae’n gas gan bobl glywed ‘brolio gostyngedig’ yn fwy na brolio arferol, gan ei fod mor ffals.

Tro nesaf rwyt ti’n postio sylwad neu lun ar gyfryngau cymdeithasol, gwylia rhag ‘brolio gostyngedig.’ Dilyna gyngor doeth y Beibl: “Gad i rywun arall dy ganmol di, paid ti â brolio dy hun.”—Diarhebion 27:2.

I adolygu: Sut gelli di osgoi’r fagl o fod yn boblogaidd ar lein?

  • Gwna’n siŵr bod beth rwyt ti’n ei bostio ar lein yn wir yn dangos pwy wyt ti a beth rwyt ti’n ei gredu.

  • Bydda’n onest yn y ffordd rwyt ti’n cyflwyno dy hun ar lein.

  • Cadwa agwedd gytbwys am y nifer sy’n dy ‘ddilyn’ ac sy’n ‘hoffi.’

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu