LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp19 Rhif 2 tt. 12-13
  • Pan Deimlwch Nad Yw Bywyd yn Werth ei Fyw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pan Deimlwch Nad Yw Bywyd yn Werth ei Fyw
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • LLE I GAEL HELP
  • OES ’NA ATEB PARHAOL?
  • Sut Galla i Ymdopi ag Iselder?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Eisiau Marw—Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ymdopi â Meddyliau Hunanladdol?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • 2 | Cysur o’r Beibl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ddelio ag Iselder?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
wp19 Rhif 2 tt. 12-13
Dynes yn dal Beibl agored ac yn syllu i’r pellter tra’n eistedd wrth fwrdd

Pan Deimlwch Nad Yw Bywyd yn Werth ei Fyw

“Doedd ’na ddim diwedd ar y teimladau hyn,” meddai Adriana, o Frasil. “Felly des i’r casgliad y byddai’n well imi ladd fy hun.”

YDYCH chi erioed wedi teimlo mor isel nad oeddech chi bellach eisiau byw? Yna mae’n debyg y byddwch yn deall sut roedd Adriana’n teimlo. Byddai hi’n cael pyliau o orbryder dwys a theimladau o dristwch ac anobaith, ac yna cafodd wybod fod ganddi iselder clinigol.

Ystyriwch brofiad dyn o Japan o’r enw Kaoru, a oedd yn gofalu am ei rieni a nhwthau wedi heneiddio a mynd yn sâl. “Ar y pryd, o’n i’n cael fy llethu gan bwysau mawr yn y gwaith. Collais yr awydd i fwyta, a ches i drafferth ofnadwy i gysgu. Dechreuais feddwl y byddai’n dipyn o ollyngdod imi farw.”

Dywedodd Ojebode, dyn o Nigeria, “Oeddwn i wastad yn teimlo’n drist ac yn ddagreuol, felly edrychais am ffordd o roi diwedd ar fy mywyd.” Yn ffodus, ni chymerodd Ojebode, Kaoru, nac Adriana eu bywydau. Ond dyna beth mae cannoedd o filoedd yn ei wneud bob blwyddyn.

LLE I GAEL HELP

O blith y rhai sy’n cyflawni hunanladdiad, dynion yw’r mwyafrif, gan fod gormod o gywilydd ar lawer ohonyn nhw i ofyn am help. Dywedodd Iesu fod pobl sâl angen meddyg. (Luc 5:31) Felly os ydych chi’n teimlo fel hyn, peidiwch â gadael i gywilydd eich rhwystro rhag gofyn am help. Mae llawer sy’n dioddef o iselder wedi profi bod triniaeth feddygol yn gallu eu helpu i ymdopi. Cafodd Ojebode, Kaoru, ac Adriana help proffesiynol ac maen nhw bellach yn ymdopi’n llawer gwell.

Gall meddygon ddefnyddio meddyginiaeth neu therapi siarad i drin iselder. Mae’r rhai sy’n dioddef hefyd angen cydymdeimlad a chefnogaeth amyneddgar eu teulu a’u ffrindiau cariadus. Y ffrind gorau gall rhywun ei gael yw Jehofa Dduw, sy’n rhoi help gwych yn ei Air, y Beibl.

OES ’NA ATEB PARHAOL?

Yn aml bydd dioddefwyr iselder yn gorfod cael triniaeth hirdymor a dysgu sut i ymdopi drwy addasu eu ffordd o fyw. Ond os ydych chi’n brwydro yn erbyn iselder, gallwch edrych ymlaen at ddyfodol hapus, fel y mae Ojebode. Dywedodd yntau, “Dw i’n edrych ymlaen at gyflawniad Eseia 33:24, sy’n proffwydo amser pan fydd neb ar y ddaear yn dweud ‘Dw i’n sâl.’” Fel Ojebode, cymerwch gysur yn addewid Duw am ‘ddaear newydd,’ lle na fydd “poen” mwyach. (Datguddiad 21:1, 4) Mae’r addewid honno yn golygu diwedd poen feddyliol ac emosiynol. Fe fydd eich teimladau poenus wedi mynd am byth, ac “wedi eu hanghofio,” fyddan nhw ddim hyd yn oed yn “croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.

Adnodau o’r Beibl a All Helpu

Mae Duw yn cydymdeimlo â chi.

“Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: ‘Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.’”—Eseia 41:13.

Mae Jehofa yn deall ein teimladau yn well na neb arall, ac y mae eisiau ein helpu ni.

Myfyriwch ar Air Duw.

Gofynnodd Elias “am gael marw. ‘Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i.’”—1 Brenhinoedd 19:4.

“Mae myfyrio ar Air Duw wedi fy helpu,” meddai Ojebode. “Sylweddolais fy mod i’n teimlo yn union fel y gwnaeth y proffwyd Elias.”

Dysgwch oddi wrth esiamplau o’r Beibl.

“Dw i [Iesu] wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd.”—Luc 22:32.

Ar ôl iddo wadu Iesu deirgwaith, torrodd Pedr ei galon a beichio wylo. Dywedodd Kaoru, “O ddarllen y profiad hwn, gwelais fod Jehofa ac Iesu yn gwir ddeall teimladau Pedr. Cododd hyn fy nghalon.”

Bydd eich teimladau poenus “wedi eu hanghofio,” fyddan nhw ddim hyd yn oed yn “croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu