Cân 109
Henffych, Gyntafanedig Jehofa!
Fersiwn Printiedig
1. Henffych, Fab Jehofa!
Y Cyntafanedig yw;
Teyrnasa’n Frenin cyfiawn—
I’w grym daw holl lwon Duw.
Llawn gras yw ei wefusau,
Marchoga dros y gwir.
Mawryga benarglwyddiaeth
Jehofa, Iôr geirwir.
(CYTGAN)
Henffych, Fab Jehofa!
Rhowch glod i Eneiniog Duw.
Sefydlwyd ar Fryn Seion
Frenhiniaeth sy’n wir glodwiw!
2. Henffych, Fab Jehofa!
Fe dalodd y pridwerth drud.
Ei aberth brynodd inni
Faddeuant a theg wynfyd.
Dilychwin ei briodferch
Mewn gwisg ddisgleirwen laes.
Dyrchafu wna’r briodas
Arglwyddiaeth Duw’n barhaus.
(CYTGAN)
Henffych, Fab Jehofa!
Rhowch glod i Eneiniog Duw.
Sefydlwyd ar Fryn Seion
Frenhiniaeth sy’n wir glodwiw!
(Gweler hefyd Salm 2:6; 45:3, 4; Dat. 19:8.)