Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Gorffennaf
“Mae bron pawb eisiau byw bywyd hir a hapus. Ydych chi’n meddwl roedd hyn yn rhan o fwriad Duw?” Arhoswch am ymateb. Yna, trowch at wers 5 yn y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!, a thrafodwch y wybodaeth o dan y cwestiwn cyntaf ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn, a threfnwch ddychwelyd i drafod y cwestiwn nesaf.
Nodyn: Dylai’r cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth ar 6 Gorffennaf gynnwys dangosiad o’r cyflwyniad hwn.
The Watchtower Gorffennaf 1
“Mae gan lawer o bobl crefydd eu hunain. Ond mae llawer eraill yn dweud eu bod nhw wedi colli parch tuag at grefydd yn gyfan gwbl. Beth yw eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Dangosodd Iesu sut i fesur pa mor dda yw crefydd. [Darllenwch Luc 6:44a.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod rhai o’r ffrwythau drwg mae crefyddau wedi eu cynhyrchu. Hefyd mae’n ateb y cwestiwn, A oes unrhyw grefydd medrwn ni ymddiried ynddi?”
Awake! Gorffennaf
“Rydyn ni’n galw heibio i drafod rhywbeth sy’n poeni llawer o bobl, sef anghyfiawnder. Mae rhai yn protestio yn ei erbyn. Ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n llwyddo i ddod â newid? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’r Beibl yn dweud bydd yn dod â newidiadau go iawn i’r byd. [Darllenwch Mathew 6:9, 10.] Mae’r cylchgrawn hwn yn ateb y cwestiwn, Ydy protestio yn effeithiol?”
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
“Rydyn ni’n picio draw i ddangos rhywbeth calonogol o’r Beibl. Mae llawer yn cael hi’n anodd credu byddai Duw cariadus yn caniatáu gymaint o ddioddefaint yn y byd. Ydych chi’n meddwl roedd dioddefaint yn rhan o bwrpas gwreiddiol Duw ar gyfer y ddaear?” Arhoswch am ymateb. Yna trowch at Wers 5, a darllenwch a thrafodwch y ddau baragraff cyntaf a’r adnodau sydd mewn print italig. Cynigiwch y llyfryn, a threfnwch ddod yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf sydd mewn print trwm.