Newyddion y Deyrnas Rhif 38 i’w Ddosbarthu ym Mis Tachwedd!
1. Pa gwestiynau sy’n codi am y meirw, a sut bydden nhw’n cael eu hateb ym mis Tachwedd?
1 Mae marwolaeth yn elyn i bawb, ni waeth beth mae rhywun yn ei gredu. (1 Cor. 15:26) Mae llawer yn gofyn beth yw cyflwr y meirw ac a fyddai’n bosibl eu gweld nhw eto. Felly, am fis cyfan, bydd cynulleidfaoedd ar draws y byd yn cymryd rhan mewn ymgyrch i ddosbarthu Newyddion y Deyrnas Rhif 38, sy’n dwyn y teitl “A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?” Bydd yr ymgyrch arbennig yn cychwyn ar 1 Tachwedd. Ar ôl yr ymgyrch arbennig, bydd Newyddion y Deyrnas Rhif 38 yn cael ei ddefnyddio yn y weinidogaeth fel traethodyn.
2. Sut mae Newyddion y Deyrnas Rhif 38 wedi ei gynllunio?
2 Sut Mae’r Traethodyn Wedi ei Gynllunio: Mae Newyddion y Deyrnas Rhif 38 wedi ei gynllunio i’w blygu ar ei hyd er mwyn tynnu sylw at y teitl, ynghyd â’r geiriau “Beth fyddech chi’n ei ddweud . . . byddan? na fyddan? efallai?” Pan agorir Newyddion y Deyrnas, bydd y darllenydd yn gweld ateb y Beibl i’r prif gwestiwn, a beth mae hyn yn ei olygu iddo ef. Bydd hefyd yn gweld rhesymau dros gredu’r Beibl. Mae tudalen gefn Newyddion y Deyrnas yn cyflwyno cwestiwn diddorol iddo feddwl amdano ac yn ei wahodd i ddysgu mwy.
3. Sut bydd Newyddion y Deyrnas Rhif 38 yn cael ei ddosbarthu?
3 Sut Bydd y Traethodyn yn Cael ei Ddosbarthu: Bydd yr ymgyrch hon yn debyg i’r rhai sy’n gwahodd pobl i’r Goffadwriaeth a’r cynadleddau rhanbarthol. Bydd yr henuriaid yn rhoi arweiniad ynglŷn â sut i weithio’r diriogaeth leol, gan ddilyn cyfarwyddyd y llythyr 1 Ebrill, 2013. Gall cynulleidfaoedd gydag ychydig o diriogaeth gynnig help i gynulleidfaoedd cyfagos sydd â mwy o diriogaeth. Pan ydych chi’n cael eich copïau o Newyddion y Deyrnas Rhif 38, cymerwch ddigon am un wythnos yn unig. Ar ôl cwblhau’r diriogaeth o dŷ i dŷ, gallwch ddefnyddio’r traethodynnau i dystiolaethu’n gyhoeddus. Os yw’r holl gopïau wedi’u dosbarthu cyn diwedd y mis, cewch ddefnyddio’r cynnig arferol. Ar y dydd Sadwrn cyntaf, yn lle cychwyn astudiaethau o’r Beibl, bydden ni’n canolbwyntio ar yr ymgyrch. Ar benwythnosau, os yw’n addas, dylen ni gynnig y cylchgronau hefyd. A ydych chi wedi trefnu cael rhan yn yr ymgyrch arbennig?