Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Cadw Cofnodion Da
“Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi.” (1 Tim. 4:16) Mae’r cyngor ysbrydoledig a gafodd ei roi gan yr apostol Paul i Timotheus yn awgrymu y dylen ni ddal ati i wneud cynnydd, os ydyn ni’n brofiadol neu beidio. I’r diben hwn, bydd cyfres newydd sy’n dwyn y teitl “Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth” yn ymddangos yn Ein Gweinidogaeth. Bydd pob erthygl yn trafod sgìl arbennig, ac yn rhoi awgrymiadau ar sut i’w ddatblygu. Yn ystod y mis, dylai pawb roi sylw manwl i’r sgìl hwnnw a cheisio’i roi ar waith. Ar ddiwedd y mis, bydd yr eitem yn y Cyfarfod Gwasanaeth yn rhoi cyfle inni ddweud sut rydyn ni wedi elwa o ddefnyddio’r sgìl hwnnw. Y mis yma rydyn ni’n cael ein hannog i weithio ar gadw cofnodion da.
Pam Mae’n Bwysig: I gyflawni ein comisiwn, mae’n rhaid inni wneud mwy na phregethu. Mae angen inni alw’n ôl ar y rhai a ddangosodd ddiddordeb a’u dysgu nhw, a rhoi dŵr i’r hadau rydyn ni wedi eu plannu. (Math. 28:19, 20; 1 Cor. 3:6-9) Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni ddod o hyd i’r person eto, siarad ag ef am ei bryderon, ac adeiladu ar y sylfaen gafodd ei osod yn y sgwrs gynt. Felly, pan ydyn ni’n cyfarfod rhywun sydd â diddordeb, mae angen cadw cofnod ohono.
Sut i Fynd Ati:
• Sicrhewch fod gennych yr hyn sydd ei angen arnoch i gadw cofnod. Diweddarwch eich nodiadau, a’u cadw nhw’n dwt ac yn drefnus. Ar ôl ichi orffen eich galwad, ysgrifennwch eich nodiadau ar unwaith.
• Ysgrifennwch fanylion y deiliad, er enghraifft ei enw, ei gyfeiriad, ei rif ffôn, a’i gyfeiriad e-bost. Beth wnaethoch chi sylwi amdano a’i deulu a allai fod o bwys?
• Nodwch fanylion eich trafodaeth. Pa adnodau wnaethoch chi eu darllen? Beth roedd ef yn ei gredu? Pa lenyddiaeth gadawsoch? Nodwch amser, diwrnod, a dyddiad yr ymweliad.
• Ysgrifennwch eich cynllun ar gyfer eich ymweliad nesaf. Beth roeddech chi’n addo ei drafod? Pryd wnaethoch chi drefnu y byddwch yn galw’n ôl?
• Diweddarwch eich cofnod bob tro rydych chi’n galw yn ôl. Does dim o’i le gydag ysgrifennu mwy o wybodaeth na sydd ei hangen. Sicrhewch eich bod chi’n cadw eich cofnodion yn ddiogel.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
• Wrth nodi manylion, dywedwch wrth yr un sy’n gweithio gyda chi yr hyn rydych yn ei ysgrifennu.