Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dangos i’r Deiliad Sut i Astudio’r Beibl
Pam Mae’n Bwysig? Wrth gynnig astudio’r Beibl â phobl, nid yw llawer yn deall yr hyn rydyn ni’n ei feddwl. Efallai maen nhw’n dychmygu ymuno â grŵp astudio, neu gofrestru ar gwrs trwy’r post. Yn hytrach na chynnig astudiaeth yn unig, beth am ichi ddangos iddyn nhw sut rydyn ni’n dysgu pobl? Mewn ychydig o funudau, ac ar stepen y drws, mae’n bosibl dangos i’r person faint maen nhw’n gallu dysgu a’i bod hi’n hawdd astudio’r Beibl.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Gweddïwch ar Jehofa er mwyn iddo fendithio eich ymdrechion i ddechrau astudiaeth Feiblaidd newydd.—Phil. 2:13.
Gan ddefnyddio’r llyfr Beibl Ddysgu, ceisiwch ddangos i rywun sut rydyn ni’n cynnal astudiaeth Feiblaidd, neu dangoswch y fideo Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd? o leiaf unwaith wrth bregethu.