Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Mawrth
“Mae llawer o bobl yn dathlu genedigaeth Iesu, ond ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni gofio ei farwolaeth?” Arhoswch am ymateb. Yna, rhowch gopi o Watchtower Mawrth 1 i’r deiliad, ac ystyriwch yr wybodaeth o dan yr isbennawd cyntaf ar dudalen 16 ac o leiaf un o’r adnodau. Trefnwch fynd yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Mawrth 1
“Mae ’na lawer o gapeli ac eglwysi a phob un yn credu pethau gwahanol. Ydych chi’n meddwl bod pawb sy’n honni eu bod nhw’n Gristnogion, yn Gristnogion go iawn? [Arhoswch am yr ymateb.] Dyma sut mae Iesu yn disgrifio gwir Gristnogion. [Darllenwch Ioan 13:34, 35.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod pum pwynt a fyddai, yn ôl Iesu, yn ein helpu ni i adnabod ei wir ddilynwyr.”
Awake! Mawrth
“Ydych chi’n teimlo bod llawer o bobl heddiw yn ddig ac yn colli eu tymer yn hawdd? Yn eich barn chi, beth sy’n achosi hyn? [Arhoswch am yr ymateb.] Sylwch ar yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am ddicter. [Darllenwch Salm 37:8.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod rhai o’r rhesymau pam mae pobl yn ymddwyn yn gas, ac mae’n dangos sut rydyn ni’n gallu ein rhwystro ein hunain rhag gwylltio.”