Un Ffordd o Ddefnyddio’r Llyfryn Neges y Beibl
Mae llawer o bobl yn ein tiriogaeth yn anghyfarwydd â’r Beibl, yn enwedig y rhai sy’n perthyn i grefyddau ar wahân i Gristnogaeth. Wrth astudio’r llyfr Beibl Ddysgu gyda phobl fel hyn, mae rhai cyhoeddwyr wedi defnyddio’r llyfryn Neges y Beibl i’w helpu nhw i gael darlun cyffredinol o gynnwys y Beibl. Er enghraifft, mae un brawd yn cyflwyno adran 1 o’r llyfryn wrth drafod pennod 3 o’r llyfr Beibl Ddysgu. O hynny ymlaen, ar ddiwedd pob astudiaeth, mae’n trafod adran arall. Ydych chi’n astudio gyda rhywun nad yw’n gyfarwydd â’r Beibl? Er mwyn iddo ddod ‘yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i’w wneud yn ddoeth a’i ddwyn i iachawdwriaeth,’ ystyriwch ddefnyddio’r llyfryn Neges y Beibl ochr yn ochr â’r llyfr Beibl Ddysgu.—2 Tim. 3:15.