Profiadau
◼ Awstralia: Roedd John, dyn addysgedig, yn mynd i’r eglwys pan oedd yn ifanc ond wedyn troi’n “anffyddiwr rhonc.” Rhoddodd arloeswr y llyfryn A Gafodd Bywyd ei Greu? iddo, ac yna, ar ymweliad canlynol gadawodd y llyfryn Origin of Life. Parhaodd yr arloeswr i feithrin ei ddiddordeb drwy roi’r cylchgronau diweddaraf iddo gan dynnu ei sylw at erthyglau a oedd yn sôn am greadigaeth a phroffwydoliaethau’r Beibl. Pan oedd yn meddwl bod John yn barod, cynigiodd ef y llyfr The Bible—God’s Word or Man’s? Ar ôl darllen y llyfr, dywedodd John ei fod yn dechrau amau ei safbwynt am fodolaeth Duw. Wedyn cyflwynodd yr arloeswr y llyfr Beibl Ddysgu, gan ddangos i John baragraff 8 ar dudalen 20 a pharagraffau 13-16 ar dudalennau 23-24. Roedd yr adnodau a oedd wedi eu dyfynnu yn gwneud cymaint o argraff ar John fe ddywedodd: “Efallai y dylwn roi cyfle arall i’r Beibl.”
◼ Mecsico: Dywedodd un dyn wrth gyhoeddwr, ‘Dydw i ddim yn credu bod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw.’ Cynigiodd y cyhoeddwr rannu gwybodaeth i ddangos fod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw. Ar ôl sgwrsio ag ef ambell waith, cafodd ei galon ei gyffwrdd gan yr hyn a oedd yn ei ddysgu o’r Beibl. Cafodd safonau Duw effaith fawr arno. Fe ddywedodd wrth y cyhoeddwr: “Ar y cychwyn pan oeddech chi a fi’n darllen y Beibl gyda’n gilydd, roedd y cyngor yn debyg i unrhyw lyfr arall; nid oedd yn effeithio arnaf. Ond nawr, pan ydyn ni’n darllen ohono, mae’r cyngor, yn enwedig y cyngor am foesau, yn effeithio ar fy nghydwybod i.”
◼ Yr Unol Daleithiau: Wrth i gwpl gymryd rhan yn y tystiolaethu metropolitan arbennig, fe wnaethon nhw gyfarfod â dynes o Taiwan. Roedd hi’n credu yn Nuw, ond bod y Beibl ar gyfer pobl o wledydd y gorllewin. Er bod ganddi fywyd moethus, daeth hi i’r stondin lenyddiaeth oherwydd roedd hi’n teimlo bod rhywbeth ar goll yn ei bywyd. Gobeithiodd hi y byddai’r Beibl yn ei helpu hi i ddarganfod pwrpas i’w bywyd. Dechreuodd y cwpl astudio gyda hi gan ddefnyddio’r llyfr Beibl Ddysgu ynghyd â’r llyfryn Lasting Peace and Happiness—How to Find Them. Yn hytrach na chychwyn ym mhennod 2 o’r llyfr, trafodon nhw’r rhan “A Guidebook for the Blessing of All Mankind” o’r llyfryn. Ar ôl trafod y chwe pharagraff cyntaf, mynegodd y ddynes ei syndod fod y Beibl mor unigryw i gymharu ag unrhyw lyfr crefyddol arall. Wedi iddi astudio proffwydoliaethau o’r Beibl sydd wedi eu cyflawni, dywedodd hi, “Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw lyfr arall sydd mor fanwl gywir â’r Beibl!”
◼ Japan: Er bod deiliad wedi dweud wrth gyhoeddwr nad oedd yn credu yn Nuw, parhaodd y cyhoeddwr i ymweld â’r dyn gan drafod erthyglau “Was It Designed?” o’r Awake! Yn raddol, newidiodd y dyn ei farn a dechreuodd gyfaddef efallai mae yna Greawdwr. Nawr mae’n credu bod Duw yn bodoli, ac mae’r cyhoeddwr yn astudio gyda’r dyn gan ddefnyddio’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
◼ Canada: Wrth i ddynes gerdded o’i thŷ i’w char derbyniodd hi’r cylchgronau diweddaraf gan chwaer. Pan alwodd y chwaer yn ôl, roedd y deiliad yn benderfynol nad oedd ganddi ddiddordeb ac nad oedd hi’n credu yn Nuw. Penderfynodd y chwaer i beidio â rhoi’r gorau iddi, ac aeth yn ôl gyda’r llyfryn A Satisfying Life—How to Attain It. Pan siaradodd y chwaer â’r ddynes eto, eglurodd ei bod hi wedi bod yn meddwl amdani. Y rheswm oedd, nid oherwydd anghrediniaeth y ddynes, ond oherwydd gwyddai’r chwaer fod y ddynes yn rhiant sengl. Defnyddiodd y chwaer baragraff 6 ar dudalen 4 o’r llyfryn, sy’n sôn am le i ddod o hyd i gyngor da. Wedyn fe wnaeth hi awgrymu i’r ddynes ddarllen gwers 2 ynglŷn â sut i fagu plant. Roedd y ddynes yn fodlon iawn i gymryd y llyfryn.