Cyflwyniadau Enghreifftiol
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
“Gan fod gymaint o ansicrwydd mewn bywyd, ydych chi’n meddwl bod geiriau Iesu am ymdopi â phryderon yn ymarferol? [Darllenwch Mathew 6:25, ac arhoswch am ymateb.] Mae’r llyfryn yma yn trafod sut mae egwyddorion y Beibl yn medru ein helpu ni heddiw.” Trowch at wers 11, cwestiwn 4, a thrafodwch baragraff 2. Trefnwch i alw yn ôl er mwyn trafod paragraff 3.
Awake! Gorffennaf
“Mae nifer o bobl yn teimlo bod amgylchiadau bywyd yn ormod iddyn nhw. Ydych chi’n cytuno? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn dangos bod ein hagwedd yn bwysig pan ydyn ni’n wynebu problemau. [Darllenwch Diarhebion 24:10.] Mae’r cylchgrawn yma yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi ag amgylchiadau anodd ac mae’n rhoi esiamplau o rai sy’n llwyddo i wneud hynny.”