LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w19 Mawrth tt. 26-28
  • Daioni—Sut Gelli Di ei Feithrin?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Daioni—Sut Gelli Di ei Feithrin?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH YW DAIONI?
  • MAE JEHOFA YN DDA
  • “DYSGWCH WNEUD DA”
  • BUDDION DAIONI
  • Rhinwedd Daioni
    Canwch i Jehofa
  • Rhinwedd Daioni
    Canwn yn Llawen i Jehofa
  • Cael Blas ar Ddaioni Jehofa—Sut?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
w19 Mawrth tt. 26-28

Daioni—Sut Gelli Di ei Feithrin?

  • CARIAD

  • LLAWENYDD

  • HEDDWCH

  • AMYNEDD

  • CAREDIGRWYDD

  • DAIONI

  • FFYDD

  • ADDFWYNDER

  • HUNANREOLAETH

MAE hi’n naturiol inni fod eisiau i eraill feddwl ein bod ni’n bobl dda. Fodd bynnag, mae dangos daioni yn her yn y byd sydd ohoni heddiw. Mae llawer o bobl “yn casáu daioni.” (2 Tim. 3:3) Efallai eu bod nhw’n dilyn safonau personol o ran da a drwg sydd, mewn gwirionedd, fel “galw drwg yn dda a da yn ddrwg.” (Esei. 5:20) Ac ar ben hynny, mae ein cefndir a’n hamherffeithrwydd yn dylanwadu arnon ni. Efallai ein bod ni’n teimlo’n debyg i chwaer o’r enw Annea sydd, er gwaethaf gwasanaethu Jehofa am ddegawdau, yn cyfaddef: “Rydw i’n ei chael hi’n anodd credu y galla’ i fod yn berson da.”

Yn ffodus, mae meithrin daioni yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud! Mae’n dod o ysbryd glân Duw ac mae ei ysbryd yn fwy pwerus nag unrhyw rwystrau allanol neu fewnol y gallwn ni eu hwynebu. Gad inni roi sylw manwl i ddaioni a dysgu sut gallwn ni ddangos y rhinwedd hon yn llawnach eto.

BETH YW DAIONI?

Yn syml, daioni yw’r cyflwr o fod yn dda. Mae’n rhinwedd neu’n rhagoriaeth foesol sydd heb unrhyw ddrygioni neu bydredd. Amlygir daioni gan yr effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar eraill. Mae’n rhinwedd weithredol a phositif sy’n ysgogi unigolyn i wneud pethau i helpu eraill.

Mae’n debyg dy fod ti wedi gweld bod rhai yn gwneud pethau da i helpu eu teuluoedd a’u ffrindiau, ond a ddylai daioni fynd yn bellach na hynny? Wrth gwrs, ni all unrhyw un fod yn wirioneddol dda ar hyd yr amser, oherwydd dywed y Beibl: “Does neb drwy’r byd i gyd mor gyfiawn nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.” (Preg. 7:20) Yn onest iawn, cyfaddefodd yr apostol Paul: “Dw i’n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn!” (Rhuf. 7:18) Rhesymol felly yw inni ddysgu’n uniongyrchol oddi wrth ddaioni Jehofa os ydyn ni eisiau datblygu’r rhinwedd honno.

MAE JEHOFA YN DDA

Jehofa Dduw sy’n gosod y safon o ran da a drwg. Mae’r Beibl yn dweud am Jehofa: “Rwyt ti’n dda, ac yn gwneud beth sy’n dda: dysga dy ddeddfau i mi.” (Salm 119:68) Gad inni ystyried dwy wedd ar ddaioni Jehofa sy’n cael eu crybwyll yn yr adnod honno.

Mae Jehofa yn dda. Mae daioni yn rhan annatod o bersonoliaeth Jehofa. Ystyria beth ddigwyddodd pan ddywedodd Jehofa wrth Moses: “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i.” Dangosodd Jehofa i Moses ei ogoniant gan gynnwys ei ddaioni. Clywodd Moses lais yn disgrifio Jehofa fel hyn: “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi.” (Ex. 33:19; 34:6, 7) Felly, mae rheswm da dros gredu bod Jehofa yn hollol dda ym mhob ffordd. Er i Iesu fod mor dda ag y gallai dyn fod, gofynnodd: “Onid Duw ydy’r unig un sy’n dda?”—Luc 18:19.

Tad a mab yn edrych ar greadigaeth Jehofa

Rydyn ni’n ceisio bod yn dda a gwneud da

Mae gweithredoedd Jehofa yn dda. Mae popeth mae Jehofa yn ei wneud yn dangos ei fod yn dda. “Mae’r ARGLWYDD yn dda i bawb; mae’n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud.” (Salm 145:9) Oherwydd bod Jehofa yn dda ac yn ddiragfarn, mae wedi rhoi bywyd i fodau dynol i gyd a’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i aros yn fyw. (Act. 14:17) Hefyd, mae ei ddaioni i’w weld pan fydd yn maddau inni. Ysgrifennodd y salmydd: “Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.” (Salm 86:5) Yn wir, “mae’r ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni. Mae e’n rhoi popeth da i’r rhai sy’n byw yn onest.”—Salm 84:11.

“DYSGWCH WNEUD DA”

Oherwydd inni gael ein creu ar ddelw Duw, mae’r potensial ynon ni i fod yn dda ac i wneud da. (Gen. 1:27) Serch hynny, anogaeth Gair Duw i’w weision yw: “Dysgwch wneud da.” (Esei. 1:17) Ond sut gallwn ni feithrin y rhinwedd apelgar hon? Dyma dair ffordd o wneud hynny.

Yn gyntaf, gallwn ni weddïo am yr ysbryd glân, sy’n gallu helpu Cristnogion i fod yn dda yng ngolwg Duw. (Gal. 5:22) Yn wir, gall ysbryd glân Duw ein helpu i ddod i garu’r hyn sy’n dda ac i wrthod yr hyn sy’n ddrwg. (Rhuf. 12:9) Hefyd, mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn gallu rhoi’r nerth inni i “wneud a dweud beth sy’n dda.”—2 Thes. 2:16, 17.

Yn ail, dylen ni ddarllen Gair ysbrydoledig Duw. O ganlyniad, gall Jehofa ein dysgu i “wneud pob math o bethau da.” (Diar. 2:9; 2 Tim. 3:17) Trwy ddarllen fel hyn a myfyrio arno, rydyn ni’n llenwi ein calonnau â phethau da am Dduw a’i ewyllys sy’n debyg i lenwi trysordy â phethau gwerthfawr a fydd yn ein helpu ni yn nes ymlaen.—Luc 6:45; Eff. 5:9.

Yn drydydd, rydyn ni’n gwneud ein gorau i ddilyn y cyngor: “Efelycha ddaioni.” (3 Ioan 11, BCND) Cawn esiamplau i’w hefelychu yn y Beibl. Wrth gwrs, y prif esiamplau yw Jehofa ac Iesu. Ond gallwn ystyried hefyd esiamplau rhai a oedd yn adnabyddus am eu daioni. Dau sydd efallai yn dod i’r cof yw Tabitha a Barnabas. (Act. 9:36; 11:22-24) Gelli di elwa ar eu hesiampl wych os gwnei di astudio beth mae’r Beibl yn ei ddweud amdanyn nhw ac am y pethau ymarferol a wnaethon nhw i helpu eraill. Meddylia am beth y medri di ei wneud i helpu rhai yn dy deulu neu yn y gynulleidfa. A phaid ag anghofio am y pethau da a ddigwyddodd i Tabitha ac i Barnabas oherwydd iddyn nhw fod yn dda wrth eraill. Gelli dithau hefyd elwa yn yr un modd.

Gallwn ni hefyd roi ystyriaeth i esiamplau cyfoes o rai sy’n gwneud daioni. Er enghraifft, meddylia am yr henuriaid gweithgar yn y gynulleidfa sy’n caru daioni. Meddylia hefyd am ein chwiorydd ffyddlon sy’n gosod esiampl mewn gair a gweithred o “ddysgu eraill beth sy’n dda.” (Titus 1:8; 2:3) Mae chwaer o’r enw Roslyn yn dweud: “Mae fy ffrind yn gwneud ymdrech lew i helpu ac i annog eraill yn y gynulleidfa. Mae hi’n meddwl am eu sefyllfa ac yn aml yn rhoi anrhegion bach iddyn nhw neu’n eu helpu mewn ffyrdd ymarferol. Dw i’n meddwl ei bod hi’n berson da iawn.”

Anogaeth Jehofa i’w bobl yw: “Ewch ati i wneud da.” (Amos 5:14) Trwy wneud hyn, byddwn yn dod i garu ei safonau a hefyd yn cryfhau ein hawydd i wneud daioni.

Fe welwn dystiolaeth o ddaioni Jehofa yn y greadigaeth

Er mwyn bod yn dda, does dim rhaid gwneud pethau mawr na rhoi anrhegion drud. Er enghraifft: A elli di ddychmygu arlunydd yn peintio portread o rywun drwy ddefnyddio un neu ddwy strôc fawr o’r brwsh? Yn hytrach, bydd yn defnyddio llawer mwy nag un strôc o’r brwsh paent i greu’r darlun. Yn yr un modd, gall ein daioni ni gael ei weld mewn llawer o weithredoedd ymarferol.

Mae’r Beibl yn ein hannog ni i fod “yn barod” i wneud daioni. (2 Tim. 2:21; Titus 3:1) Pwysig iawn yw bod yn effro i sefyllfa ein cymdogion, “a cheisio eu helpu nhw a’u gwneud nhw’n gryf.” (Rhuf. 15:2) Gall hynny olygu rhannu rhywbeth â nhw. (Diar. 3:27) Gallwn eu gwahodd nhw draw am bryd syml o fwyd a chwmni adeiladol. Os ydyn ni’n clywed bod rhywun yn sâl, gallwn anfon cerdyn ato, ymweld ag ef, neu ei ffonio. Yn wir, gallwn edrych am gyfleoedd i “ddweud pethau sy’n helpu pobl eraill—pethau sy’n bendithio’r rhai sy’n eich clywed chi.”—Eff. 4:29.

Yn debyg i Jehofa, rydyn ni’n ceisio bod yn dda wrth bawb. Felly, dydyn ni ddim yn dangos ffafriaeth. Un ffordd ragorol o wneud hynny yw pregethu’r newyddion da am y Deyrnas i bawb. Fel y gorchmynnodd Iesu, rydyn ni’n ceisio gwneud daioni hyd yn oed i’r rhai sy’n ein casáu ni. (Luc 6:27) Dydy bod yn garedig byth yn anghywir a “does dim cyfraith yn erbyn pethau felly.” (Gal. 5:22, 23) Er gwaethaf erledigaeth, gall ein hymddygiad da ddenu eraill at y gwirionedd ac achosi iddyn nhw ogoneddu Duw.—1 Pedr 3:16, 17.

BUDDION DAIONI

“Bydd . . . pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd.” (Diar. 14:14) Beth yw rhai o’r buddion? Pan fyddwn ni’n dda wrth eraill, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn dda wrthyn ni. (Diar. 14:22, Beibl Cysegr-lân) Hyd yn oed os nad ydyn nhw, gall parhau i wneud pethau da feddalu eu hagwedd ac achosi iddyn nhw ein trin ni’n well.—Rhuf. 12:20.

Gall llawer dystio i sut maen nhw wedi elwa ar wneud daioni a chefnu ar ddrygioni. Ystyria hanes Nancy. “Wrth dyfu i fyny, roeddwn i’n wyllt, yn anfoesol, ac yn amharchus. Fodd bynnag, wrth imi ddysgu am safonau Duw ynglŷn â daioni a’u rhoi ar waith, dechreuais deimlo’n hapusach. Nawr, mae gen i urddas a hunan-barch.”

Y rheswm pennaf dros feithrin daioni yw bod gwneud hynny’n plesio Jehofa. Hyd yn oed os nad yw eraill yn gweld, mae Jehofa yn gweld. Mae’n ymwybodol o’n gweithredoedd a’n meddyliau da. (Eff. 6:7, 8) Beth yw’r canlyniad? “Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD.” (Diar. 12:2) Felly gad inni barhau i feithrin daioni. Mae Jehofa yn addo: “Ysblander, anrhydedd a heddwch dwfn fydd i’r rhai sy’n gwneud daioni.”—Rhuf. 2:10.

a Newidiwyd rhai enwau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu