Cyflwyniadau Enghreifftiol
Newyddion y Deyrnas Rhif 38
“Dw i’n helpu cyhoeddi’r neges bwysig yma ar draws y byd. Dyma eich copi chi.”
Nodyn: Er mwyn gweithio eich holl diriogaeth, cadwch eich cyflwyniad yn fyr. Ond, efallai bydd rhai deiliaid yn dangos gwir ddiddordeb ac yn barod i siarad. Os felly, gallwch ofyn am eu sylwadau ynglŷn â’r cwestiwn ar y tu blaen. Darllenwch ateb y Beibl sydd y tu mewn, a thrafod rhan o’r traethodyn, os yw amser yn caniatáu. Cyn ichi adael, dangoswch y “Cwestiwn i Feddwl Amdano” ar gefn y traethodyn, a threfnwch i fynd yn ôl i’w drafod.
The Watchtower Tachwedd 1
“Beth ydych chi’n meddwl yw’r celwydd gwaethaf sydd wedi cael ei ddweud am Dduw? [Arhoswch am ymateb.] Yn ôl y Beibl, mae Duw eisiau i bobl ei garu ac eisiau iddyn nhw ymddiried ynddo. [Darllenwch Eseia 41:13.] Mae’r cylchgrawn yma yn datgelu’r gwir am dri chelwydd cyffredin am Dduw. Bydd gwybod hyn yn ein helpu ni i agosáu ato.”
Awake! Tachwedd
“Rydyn ni’n galw heibio oherwydd mae llawer yn yr ardal yn poeni bod moesau yn dirywio y dyddiau yma. Ydych chi’n meddwl bod moesau llac yn gyffredin? [Arhoswch am ymateb.] Dywedodd y Beibl byddai agweddau ac ymddygiad pobl yn newid. [Darllenwch 2 Timotheus 3:1-5.] Mae’r cylchgrawn yma yn dangos pam gallwn ni ymddiried yn safonau’r Beibl.”