LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp23 Rhif 1 tt. 10-11
  • 3 | Sut Gall Esiamplau o’r Beibl Eich Helpu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 3 | Sut Gall Esiamplau o’r Beibl Eich Helpu?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Mae Hynny’n ei Olygu?
  • Sut Gall Hyn Helpu?
  • 2 | Cysur o’r Beibl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • 4 | Mae’r Beibl yn Cynnig Cyngor Ymarferol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • Sut Gallaf Reoli Fy Emosiynau?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • 1 | Gweddi—‘Bwrw Eich Holl Bryder Arno Ef’
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
wp23 Rhif 1 tt. 10-11
Y proffwyd Moses yn gofidio, yn edrych tuag at y nef ac yn gweddïo ar Dduw.

3 | Sut Gall Esiamplau o’r Beibl Eich Helpu?

MAE’R BEIBL YN DISGRIFIO . . . Dynion a merched ffyddlon oedd â’r “un teimladau â ni.”—IAGO 5:17.

Beth Mae Hynny’n ei Olygu?

Mae’r Beibl yn llawn hanesion dynion a merched a wynebodd bob math o emosiynau. Wrth inni ddarllen amdanyn nhw, mae’n debyg byddwn ni’n dod ar draws cymeriad gallwn ni gydymdeimlo ag ef neu hi.

Sut Gall Hyn Helpu?

Rydyn ni i gyd eisiau teimlo bod eraill yn ein deall ni, yn enwedig os ydyn ni’n stryglo â’n hiechyd meddwl. Pan ydyn ni’n darllen profiadau pobl yn y Beibl, efallai byddwn ni’n uniaethu â’r ffordd maen nhw’n meddwl ac yn teimlo. Gall gwybod fod eraill wedi delio â phryder ac emosiynau cythryblus ein helpu ni i weld nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain.

  • Gwnaeth llawer o gymeriadau yn y Beibl fynegi eu hunain pan oedden nhw ar eu hisaf. Ydych chi erioed wedi teimlo ‘Dw i wedi cael llond bol, mae hyn yn ormod imi’? Roedd Moses yn teimlo fel ’na, ac Elias, a Dafydd hefyd.—Numeri 11:14; 1 Brenhinoedd 19:4; Salm 55:4.

  • Mae’r Beibl yn sôn am ddynes o’r enw Hanna oedd wedi “torri ei chalon” oherwydd roedd hi’n methu cael plant ac roedd hi’n cael ei phryfocio’n arw gan wraig arall.—1 Samuel 1:6, 10.

  • Efallai byddwch yn uniaethu â dyn o’r Beibl o’r enw Job. Roedd yn ddyn ffyddlon, ond eto roedd yn teimlo poen emosiynol llethol, a dywedodd: “Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.”—Job 7:16.

Bydd darllen am sut gwnaeth y bobl hyn ddelio â meddyliau negyddol yn rhoi’r nerth inni ddelio â phoen emosiynol ni’n hunain.

Sut Mae’r Beibl yn Helpu Kevin

Sut Mae Anhwylder Deubegwn yn Effeithio Arna I?

Kevin yn cael paned gyda dau ffrind.

“Ces i fy niagnosio ag anhwylder deubegwn yn fy mhedwardegau hwyr. Ar adegau, dw i’n teimlo fy mod i’n gallu concro’r byd, ond ar adegau eraill dw i’n teimlo dydy bywyd ddim yn werth ei fyw.”

Sut Mae’r Beibl yn Fy Helpu?

“Alla i gydymdeimlo â’r apostol Pedr. Roedd yn teimlo’n ddiwerth ar ôl gwneud camgymeriadau, ond yn hytrach na chanolbwyntio ar ei deimladau negyddol, gwnaeth ef geisio treulio amser gyda ffrindiau da. Pan dw i’n cael dyddiau drwg, gall fy amherffeithion fy llethu, a gwneud imi deimlo’n dda i ddim. Fel Pedr, dw i wedi dysgu i gadw fy ffrindiau yn agos oherwydd maen nhw’n fy helpu i i beidio â rhoi’r gorau iddi.

“Dw i hefyd yn cael cysur mawr o hanes y Brenin Dafydd. Roedd yn teimlo’n isel yn aml oherwydd ei amgylchiadau a’i gamgymeriadau. Dw i’n gallu cydymdeimlo, oherwydd weithiau dw i’n gwneud neu’n dweud pethau dw i wedyn yn eu difaru. Mae geiriau Dafydd yn Salm 51 yn dod â chysur i mi. Yn adnod 3 mae Dafydd yn dweud: ‘Dw i’n cyfaddef mod i wedi tynnu’n groes, a dw i’n ymwybodol iawn o’m methiant.’ Dyna’n union sut dw i’n teimlo pan dw i ar fy isaf, ac mae’n gallu bod yn anodd imi weld fy hun mewn golau da. Ond wedyn, yn adnod 10, mae Dafydd yn mynd ymlaen i ddweud: ‘Crea galon lân yno i, O Dduw; a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.’ Felly, dw i’n dweud gweddi debyg pan dw i angen newid sut dw i’n teimlo amdana i fy hun. Yn olaf, mae adnod 17 yn dangos dydy Duw ddim yn diystyru calon sydd wedi ei thorri. Mae hyn yn dod â chysur mawr imi oherwydd mae’n fy atgoffa bod Duw yn fy ngharu i.

“Drwy feddwl am esiamplau o’r Beibl a chanolbwyntio ar beth mae Duw eisoes wedi rhoi imi dw i’n cryfhau fy ngobaith ar gyfer y dyfodol. Mae addewidion y Beibl yn real imi, ac mae hynny’n fy helpu i i ddal ati.”

Am Fwy o Help:

Darllenwch yr erthygl “Pan Deimlwch Nad Yw Bywyd yn Werth ei Fyw,” yn rhifyn 2, 2019, y Tŵr Gwylio cyhoeddus ar jw.org/cy.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu