Cyflwyniadau Enghreifftiol
Hoffech Chi Wybod Y Gwir?
“Rydyn ni’n gofyn cwestiwn diddorol i bawb yn yr ardal heddiw. Mae rhai pobl yn teimlo nad oes unrhyw bwynt gweddïo gan nad oes neb yn cymryd sylw. Ond mae eraill yn credu bod Duw yn gwrando. Beth yw eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am weddi. [Darllenwch 1 Ioan 5:14.] Mae’r daflen hon yn esbonio sut y gallwn ni weddïo mewn ffordd sy’n plesio Duw.”
Awake! Hydref
“Rydyn ni’n trafod cwestiwn y mae llawer o bobl yn yr ardal yn ei ofyn, sef pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint? Ydych chi’n meddwl bod holi Duw am y fath bethau yn amharchus? [Arhoswch am ymateb.] Roedd y dyn cyfiawn Job yn awyddus iawn i holi Duw. [Job 23:3-5.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod tri chwestiwn y buasai nifer o bobl yn hoffi eu gofyn i Dduw, a’r atebion sydd yn y Beibl.”