ERTHYGL ASTUDIO 43
“Bydd Ef yn Eich Gwneud Chi’n Gryf”—Sut?
“Bydd [Jehofa] yn eich gwneud chi’n gryf, bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.”—1 PEDR 5:10.
CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau
CIPOLWGa
1. Sut cafodd addolwyr Duw eu cryfhau yn yr oes a fu?
MAE gair Duw yn aml yn disgrifio dynion ffyddlon fel rhai pwerus. Ond roedd hyd yn oed y rhai cryf yn eu plith ddim yn wastad yn teimlo’n gryf. Er enghraifft, weithiau roedd y brenin Dafydd yn teimlo ei fod yn “gadarn fel y graig,” ond ar adegau eraill, roedd yn ‘ofni am ei fywyd.’ (Salm 30:7) Er bod Samson yn bwerus tu hwnt pan oedd yn cael ei symud gan ysbryd Duw, roedd yn sylweddoli heb help Duw, fe fyddai “mor wan ag unrhyw ddyn arall.” (Barn. 14:5, 6; 16:17) Mae’r dynion ffyddlon hyn ond yn gryf achos bod Jehofa wedi rhoi pŵer iddyn nhw.
2. Pam dywedodd yr apostol Paul ei fod yn wan ond hefyd yn gryf? (2 Corinthiaid 12:9, 10)
2 Roedd yr apostol Paul angen pŵer oddi wrth Jehofa. (Darllen 2 Corinthiaid 12:9, 10.) Fel nifer ohonon ni, roedd gan Paul broblemau iechyd. (Gal. 4:13, 14) Weithiau, roedd yn stryglo i wneud y peth cywir. (Rhuf. 7:18, 19) Hefyd, roedd yn becso a ddim yn siŵr beth i’w wneud. (2 Cor. 1:8, 9) Er hynny, pan oedd Paul yn wan, fe ddaeth yn bwerus. Sut? Rhoddodd Jehofa’r pŵer roedd Paul ei angen er mwyn wynebu ei dreialon.
3. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl hon?
3 Mae Jehofa yn addo ein gwneud ni’n gryf hefyd. (1 Pedr 5:10) Ond dydyn ni ddim yn gallu derbyn pŵer heb wneud unrhyw ymdrech ar ein rhan ni. Er enghraifft, mae injan yn gallu symud car yn ei flaen. Ond, mae’n rhaid i’r gyrrwr roi ei droed i lawr er mwyn i’r car mynd unrhyw le. Mewn modd tebyg, mae Jehofa yn barod i roi pŵer inni, ond mae’n rhaid i ni gymryd y camau er mwyn elwa ohono. Beth mae Jehofa wedi ei roi inni er mwyn ein helpu ni i fod yn gryf? A beth mae’n rhaid inni ei wneud i dderbyn y pŵer hwn? Byddwn ni’n dysgu am hyn yn yr erthygl hon drwy edrych ar dri chymeriad gwahanol—y proffwyd Jona, Mair, mam Iesu, a’r apostol Paul. Byddwn ni hefyd yn edrych ar sut mae Jehofa yn cryfhau ei weision heddiw mewn sefyllfaoedd tebyg.
MAE GWEDDI AC ASTUDIO YN EIN CRYFHAU
4. Sut gallwn ni dderbyn pŵer gan Jehofa?
4 Un ffordd gallwn ni dderbyn pŵer ydy trwy weddïo ar Jehofa. Wrth ateb ein gweddïau, mae Jehofa yn gallu rhoi inni’r “grym sydd y tu hwnt i’r arferol.” (2 Cor. 4:7) Gallwn ni hefyd gael ein cryfhau wrth ddarllen ei Air a myfyrio arno. (Salm 86:11) Mae neges Jehofa yn y Beibl yn “hynod o rymus.” (Heb. 4:12) Pan ydyn ni’n gweddïo ar Jehofa ac yn darllen ei Air, byddwn ni’n cael y nerth sydd ei eisiau arnon ni i ddyfalbarhau ac i gadw’n hapus, hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd. Sylwa ar sut gwnaeth Jehofa gryfhau’r proffwyd Jona.
5. Pam roedd Jona angen cael ei gryfhau?
5 Roedd y proffwyd Jona wir angen cryfder. Rhedodd i ffwrdd o aseiniad caled roedd Jehofa wedi ei roi iddo. O ganlyniad, fe wnaeth bron â cholli ei fywyd mewn storm anferth, a rhoi bywydau pawb arall ar y llong mewn peryg. Pan gafodd ei daflu oddi ar y llong, ffeindiodd ei hun mewn lle nad oedd unrhyw ddyn wedi bod o’r blaen—mewn stumog pysgodyn enfawr. Sut roedd Jona’n teimlo? A oedd yn credu ei fod yn mynd i farw yno? A oedd yn meddwl bod Jehofa wedi ei wrthod? Mae’n rhaid bod Jona wedi becso yn fawr iawn.
Fel y proffwyd Jona, sut gallwn ni gael ein cryfhau wrth wynebu treial? (Gweler paragraff 6-9)
6. Ar sail Jona 2:1, 2, 7, beth a wnaeth gryfhau Jona tra ei fod yn stumog y pysgodyn?
6 Beth wnaeth Jona er mwyn derbyn cryfder mewn lle mor unig? Y peth cyntaf wnaeth ef oedd gweddïo. (Darllen Jona 2:1, 2, 7.) Er ei fod wedi mynd yn erbyn ewyllys Jehofa, roedd Jona’n hyderus y byddai Jehofa’n gwrando ar ei weddi ostyngedig. Gwnaeth Jona hefyd feddwl yn ddwfn am yr Ysgrythurau. Pam gallwn ni ddweud hyn? Mae’r weddi sydd wedi ei recordio yn Jona pennod 2 yn cynnwys geiriau tebyg i’r Salmau. (Er enghraifft, cymhara Jona 2:2, 5 â Salm 69:1; 86:7.) Mae’n amlwg bod Jona’n gwybod yr adnodau hyn yn dda iawn. A thrwy fyfyrio ar y rhain yn ystod ei broblemau, roedd yn gallu gweld bod Jehofa yn edrych ar ei ôl. Yn hwyrach, glaniodd Jona ar dir sych, yn barod i fynd i’w aseiniad nesaf.—Jona 2:10–3:4.
7-8. Sut mae un brawd o Taiwan wedi derbyn pŵer yn ystod ei dreialon?
7 Mae esiampl Jona yn gallu ein helpu ni pan ydyn ni’n mynd trwy dreialon gwahanol. Er enghraifft, mae Zhiming,b brawd yn Taiwan, yn cael ei effeithio gan broblemau iechyd. Hefyd, mae ei ffydd yn Jehofa wedi achosi iddo gael problemau erchyll teuluol. Ond, mae’n cael cryfder oddi wrth Jehofa drwy weddïo ac astudio. Mae’n dweud: “Weithiau, pan mae problemau’n codi, dwi’n mynd mor bryderus nes fy mod i methu canolbwyntio ac astudio.” Ond, mae’n dibynnu ar Jehofa am help. “Yn gyntaf, dwi’n gweddïo ar Jehofa, ac yn ail, dwi’n rhoi fy nghlustffonau ymlaen a gwrando ar ganeuon y Deyrnas. Weithiau dwi’n canu nhw’n ddistaw bach nes imi deimlo’n well. Wedyn, dwi’n dechrau astudio unwaith eto.”
8 Mae astudiaeth bersonol wedi cryfhau’r brawd Zhiming mewn ffyrdd annisgwyl. Er enghraifft, pan oedd yn dod dros lawdriniaeth fawr, dywedodd nyrs wrtho gan fod cyfrifiad ei gelloedd coch yn isel, byddai’n rhaid iddo gael trallwysiad gwaed. Y noson cyn y llawdriniaeth, darllenodd Zhiming am chwaer a gafodd yr un llawdriniaeth. Roedd cyfrifiad celloedd coch ei gwaed hi wedi mynd yn llawer iawn yn is na’i un ef. Ond doedd hi ddim wedi derbyn trallwysiad gwaed, ac roedd hi wedi gwella. Roedd y profiad yn cryfhau Zhiming i gadw’n ffyddlon.
9. Os wyt ti wedi cael dy wanhau o achos treial, beth gelli di ei wneud? (Gweler hefyd y lluniau.)
9 Yn ystod treial, a wyt ti’n teimlo mor orbryderus nad wyt ti’n gallu gweddïo neu astudio? Cofia fod Jehofa yn deall dy sefyllfa yn berffaith. Felly hyd yn oed os wyt ti’n dweud gweddi syml, bydd Jehofa yn gallu rhoi unrhyw beth sydd ei angen arnat ti. (Eff. 3:20) Os ydy’r poen corfforol neu emosiynol yn ormod iti, tria wrando ar recordiadau o’r Beibl neu ein cyhoeddiadau. Gall gwrando ar ein caneuon neu wylio fideo ar jw.org helpu hefyd. Er mwyn cael ein cryfhau gan Jehofa, mae’n rhaid inni weddïo arno a chwilio am yr atebion yn ei Air a’n cyhoeddiadau.
MAE EIN BRODYR A’N CHWIORYDD YN EIN CRYFHAU
10. Sut rydyn ni’n cael ein cryfhau gan ein brodyr a’n chwiorydd?
10 Mae Jehofa yn defnyddio ein brodyr a’n chwiorydd i’n cryfhau. Maen nhw’n gallu bod yn “gysur mawr” pan ydyn ni’n wynebu treialon neu os oes gynnon ni aseiniad anodd. (Col. 4:10, 11) Rydyn ni angen ffrindiau “i helpu mewn helbul.” (Diar. 17:17) Pan ydyn ni’n teimlo’n wan, gall ein cyd-Gristnogion ein helpu ni yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol. Edrycha ar sut roedd Mair, mam Iesu, yn derbyn cymorth oddi wrth eraill.
11. Pam roedd Mair angen cael ei chryfhau?
11 Dychmyga bryder Mair ar ôl iddi dderbyn aseiniad enfawr oddi wrth yr angel Gabriel. Doedd hi ddim yn briod, ond roedd hi’n feichiog. Doedd ganddi ddim profiad yn magu plant. Ond roedd rhaid iddi edrych ar ôl y bachgen a oedd am fod y Meseia. A gan ei bod hi byth wedi cael rhyw, sut byddai hi’n esbonio hyn i’w darpar ŵr, Joseff?—Luc 1:26-33.
12. Yn ôl Luc 1:39-45, sut cafodd Mair ei chryfhau?
12 Sut gwnaeth Mair dderbyn y cryfder i ddelio a’r aseiniad caled ac unigryw hwn? Chwiliodd hi am gymorth gan eraill. Gwnaeth hi siarad â Gabriel a gofyn am fwy o wybodaeth am yr aseiniad. (Luc 1:34) Yn fuan ar ôl hynny, teithiodd i “ardal fynyddig” Jwda i weld Elisabeth. Roedd y siwrne hynny yn llwyddiannus. Rhannodd Elisabeth broffwydoliaeth am y babi yng nghroth Mair a’i chalonogi hi. (Darllen Luc 1:39-45.) Dywedodd Mair fod Jehofa wedi “gweithredu’n rymus â’i fraich.” (Luc 1:46-51) Gwnaeth Jehofa ddefnyddio Gabriel ac Elisabeth i gryfhau Mair.
13. Beth ddigwyddodd pan ofynnodd chwaer am help gan ei chyd-addolwyr?
13 Fel Mair, gelli di gael dy gryfhau gan gyd-addolwyr. Roedd Dasuri, chwaer o Bolifia, angen cryfder ar ôl i’w thad dderbyn diagnosis o afiechyd terfynol. Pan oedd yn yr ysbyty, roedd Dasuri eisiau bod wrth ochr ei thad cymaint â phosib. (1 Tim. 5:4) Mae hi’n cyfaddef, “Nifer o weithiau roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n gallu cario ymlaen.” A wnaeth hi ofyn am gymorth? Nid ar y dechrau. “Doeddwn i ddim eisiau becso’r brodyr,” dywedodd hi. “Roeddwn i’n credu mai Jehofa yn unig a fyddai’n rhoi cryfder imi. Ond gwnes i sylweddoli, trwy ynysu fy hunan, roeddwn i’n trio wynebu fy mhroblemau ar fy mhen fy hunan.” (Diar. 18:1) Felly, gwnaeth Dasuri benderfynu ysgrifennu at ei ffrindiau i sôn am ei sefyllfa. “Ces i fy nghryfhau cymaint gan fy nghyd-addolwyr. Roedd rhai ohonyn nhw’n dod â bwyd i’r ysbyty ac yn rhannu adnodau o gymorth o’r Beibl. Roedd hi mor hyfryd i wybod nad oeddwn i ar fy mhen fy hunan a’n bod ni’n rhan o deulu anferth Jehofa—teulu sy’n barod i lefain gyda ni a’n cefnogi ni.”
14. Pam dylen ni dderbyn help gan yr henuriaid?
14 Un ffordd gall Jehofa roi pŵer inni ydy trwy’r henuriaid. Mae’r rhain yn anrhegion i’n cryfhau a’n helpu ni. (Esei. 32:1, 2) Felly, os wyt ti’n teimlo’n bryderus, tro at yr henuriaid. Pan maen nhw’n rhoi cymorth iti, bydda’n barod i’w dderbyn. Gall Jehofa eu defnyddio nhw i dy wneud di’n gryf.
MAE EIN GOBAITH AM Y DYFODOL YN EIN CRYFHAU
15. Pa obaith sydd gan bob Cristion?
15 Mae gobaith ysbrydol yn gallu ein llenwi ni â phŵer. (Rhuf. 4:3, 18-20) Fel Cristnogion, mae’r gobaith gynnon ni o fywyd tragwyddol—naill ai ar y ddaear neu yn y nefoedd. Mae’r gobaith hwn yn ein cryfhau ni i ddelio â threialon, i bregethu’r newyddion da, a derbyn aseiniadau yn y gynulleidfa. (1 Thes. 1:3) Gwnaeth y gobaith hwn gryfhau’r apostol Paul.
16. Pam roedd Paul angen cael ei gryfhau?
16 Roedd Paul angen cryfder. Yn ei lythyr at y Corinthiaid, disgrifiodd ei hun fel llestr pridd. Roedd yn ‘cael ei wasgu’n galed,’ yn “pendroni,” ‘yn cael ei erlid,’ a ‘wedi ei daro i lawr.’ Roedd ei fywyd yn y fantol. (2 Cor. 4:8-10) Ysgrifennodd Paul y geiriau hyn yn ystod ei drydedd daith genhadol. Ond, doedd ei broblemau ddim drosodd. Gwnaeth bron â boddi, a chafodd ei guro, ei arestio, a’i garcharu.
17. Yn unol ag 2 Corinthiaid 4:16-18, beth a wnaeth helpu Paul wynebu ei dreialon?
17 Trwy ffocysu ar ei obaith, cafodd Paul y cryfder i ddyfalbarhau. (Darllen 2 Corinthiaid 4:16-18.) Dywedodd wrth y Corinthiaid, er bod ei ‘gorff yn dirywio,’ na fyddai’n gadael i hynny effeithio arno’n negyddol. Roedd gobaith nefol Paul a oedd o’i flaen, y “gogoniant sydd heb ei debyg,” yn werth mwy nag unrhyw dreial roedd ef wedi ei wynebu. Roedd Paul yn myfyrio ar ei obaith, ac felly, roedd yn cael ei “adfywio o ddydd i ddydd.”
18. Sut mae gobaith wedi cryfhau Tihomir a’i deulu?
18 Mae Tihomir, brawd ifanc o Bwlgaria, yn ffeindio cryfder yn ei obaith. Nifer o flynyddoedd yn ôl, bu farw ei frawd bach, Zdravko, mewn damwain. Roedd y teulu wedi stryglo ar ôl hynny i ymdopi â’r farwolaeth. Roedd dychmygu’r atgyfodiad yn dod â chysur i’r teulu. Mae’n esbonio: “Er enghraifft, rydyn ni’n trafod ble byddwn ni’n cwrdd â Zdravko, beth byddwn ni’n ei fwyta, pwy fydd yn cael ei wahodd i’r parti cyntaf ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw, a beth byddwn ni’n ei ddweud wrtho am y dyddiau olaf.” Mae Tihomir yn dweud bod y teulu wedi cael eu cryfhau drwy ffocysu ar eu gobaith. Mae hyn wedi eu helpu nhw i aros am yr amser pan fydd Jehofa yn atgyfodi Zdravko.
Sut rwyt ti’n dychmygu bydd bywyd yn y byd newydd? (Gweler paragraff 19)c
19. Sut gelli di gryfhau dy obaith? (Gweler hefyd y llun.)
19 Sut gelli di gryfhau dy obaith? Os oes gen ti’r gobaith daearol, darllena ddisgrifiadau o’r Baradwys a myfyria arnyn nhw. (Esei. 25:8; 32:16-18) Meddylia yn ddwfn am fywyd yn y byd newydd. Dychmyga dy hun yno. Pwy rwyt ti’n ei weld? Pa synau rwyt ti’n eu clywed? Sut wyt ti’n teimlo? Er mwyn helpu gyda dy ddychymyg, edrycha ar luniau yn ein llenyddiaeth neu gwylia fideo cerddoriaeth, fel Ar y Gorwel, Dychmyga Dy Fywyd, neu’r gân Saesneg The New World to Come. Bydd hyn yn ein helpu ni i gadw’r gobaith o’r byd newydd yn glir yn ein meddyliau. Yn wir, “dros dro ac ysgafn” bydd ein treial. (2 Cor. 4:17) Trwy’r gobaith mae Jehofa yn ei roi iti, bydd yn dy wneud di’n gryf.
20. Hyd yn oed pan ydyn ni’n teimlo’n wan, sut gallwn ni wneud pethau mawrion?
20 Hyd yn oed pan ydyn ni’n teimlo’n wan, “gyda Duw gallwn ni wneud pethau mawrion.” (Salm 108:13) Mae Jehofa wedi darparu popeth sydd ei angen arnon ni i gael ein cryfhau ganddo. Felly os ydyn ni angen help i gyflawni aseiniad, i ddyfalbarhau ymhlith treialon, neu i aros yn llawen, erfynia ar Jehofa mewn gweddi a gwna dy astudiaeth bersonol. Bydda’n barod i dderbyn anogaeth gan dy gyd-Gristnogion. Cadw dy obaith yn glir yn dy feddwl. Yna, ‘byddi di’n cael dy gryfhau â phob grym yn ôl nerth gogoneddus Duw, fel y gelli di ddyfalbarhau yn llwyr gydag amynedd a llawenydd.’—Col. 1:11.
CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa
a Bydd yr erthygl hon yn helpu’r rhai sy’n teimlo bod treial neu aseiniad yn ormod iddyn nhw. Byddwn ni’n dysgu sut gall Jehofa ein cryfhau ni a beth gallwn ni ei wneud i dderbyn ei help.
b Mae rhai enwau wedi cael eu newid.
c DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer sy’n fyddar yn meddwl yn ddwfn am addewidion y Beibl ac yn chwarae fideo cerddoriaeth i’w helpu hi i ddychmygu ei bywyd yn y byd newydd.